Beth yw Tlodi Plant

Beth yw Tlodi Plant

Mae tlodi plant, fel tlodi ei hun, yn syniad cymhleth i'w ddiffinio'n union ac nid oes un diffiniad cyffredinol penodol ohono. Diffiniad gweithredol yr Undeb Ewropeaidd o dlodi yw:

'Personau, teuluoedd a grwpiau o bersonau y mae'u hadnoddau (materol, diwylliannol a chymdeithasol) mor gyfyngedig fel ag i'w hallgáu hwynt o'r ffordd o fyw sy'n cyrraedd safon sylfaenol dderbyniol yn yr Aelod Wladwriaeth y maent yn perthyn iddi'.

Ar ôl ymgynghori ar "Measuring Child Poverty", pennodd Llywodraeth y DU dri dull o archwilio a mesur tlodi plant yn y DU dros amser:

  • Incwm isel absoliwt: mae'r dangosydd hwn yn mesur i ba raddau mae'r teuluoedd tlotaf yn gweld eu hincwm yn cynyddu mewn gwirionedd. Mae'r lefel wedi'i phennu i gyfateb â'r trothwy incwm isel cymharol ar gyfer blwyddyn sylfaen 1998-99 wedi'i fynegi ym mhrisiau heddiw;
  • Incwm isel cymharol: mae hwn yn mesur i ba raddau mae incwm y teuluoedd tlotaf yn tyfu yn unol â thwf incwm yn yr economi yn gyffredinol. Mae'r dangosydd hwn yn mesur nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi sydd ag incwm o dan 60% o incwm canolrif cyfoes ar gyfer cartrefi. Mae'n cymharu incwm y bobl dlotaf mewn cymdeithas gydag incwm 'cartref nodweddiadol' felly mae'r trothwy'n newid wrth i gyfoeth cymdeithas newid ('llinell dlodi symudol'). I ddarllen mwy am incwm canolrif y DU, cliciwch yma i fynd i wefan Ystadegau Gwladol ac yma i fynd i wefan Tlodi (The Poverty Site); ac
  • Amddifadedd sylweddol ac incwm isel gyda'i gilydd: mae'r dangosydd hwn yn darparu mesur ehangach o safonau byw pobl. Mae'r dangosydd yn mesur nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi o amddifadedd sylweddol ac sydd ag incwm o dan 70% o'r incwm canolrif cyfoes ar gyfer cartrefi. Mae amddifadedd sylweddol yn edrych ar safonau byw fel:
    • Gwyliau oddi cartref am o leiaf wythnos unwaith y flwyddyn gyda'r teulu
    • Nofio o leiaf unwaith y mis
    • Ffrindiau draw am de / byrbryd unwaith bob pythefnos 
    • Dathlu achlysuron arbennig e.e. penblwyddi 
    • Mynd ar drip ysgol o leiaf unwaith y tymor 

Mae Llywodraeth y DU yn monitro tlodi plant yn erbyn y tri mesur gyda tharged yn gysylltiedig â'r mesur incwm isel cymharol, gan gydnabod bod yna ganlyniadau negyddol ychwanegol yn dod yn sgil incwm sy'n gostwng yn is nag incwm eraill mewn cymdeithas, yn cynnwys diffyg cyfle cyfartal ac allgáu cymdeithasol.

Mae "Dyfodol Teg in Plant", strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, yn dosbarthu tlodi plant yn dri maes:

Tlodi Incwm

Mae incwm isel yn amddifadu plant rhag cael cyfleoedd, ac mae plant ac oedolion yn cytuno mai cyfleoedd gwell am swyddi cynaliadwy yw'r prif lwybr i ddianc rhag tlodi. Ar hyn o bryd, mae cartrefi sy'n byw mewn tlodi yn cael eu diffinio fel y rhai sy'n byw ar 60% neu lai o incwm canolrif y DU. Mae yna ddiffiniad o dlodi plant difrifol hefyd, sef cartrefi sy'n gorfod byw ar 50% neu lai o incwm canolrif y DU. Cymru sydd â'r lefel uchaf o dlodi plant difrifol o blith rhanbarthau'r DU.

Yn 2009/10, y ffigurau mewn arian sy'n 60% o incwm canolrif yw:

  • £256 yr wythnos i unig riant gyda dau o blant dibynnol 5 oed a 14 oed;
  • £346 yr wythnos i gwpl gyda dau blentyn dibynnol 5 oed a 14 oed

Yn 2009/10, y ffigurau mewn arian sy'n 50% o incwm canolrif yw:

  • Unig riant gyda dau blentyn (5 oed a 14 oed), £213 / wythnos;
  • Cwpl gyda dau blentyn (5 oed a 14 oed), £288 / wythnos.

Cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ystadegau gwladol ar Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI) ar 12 Mai eleni. Mae'r ystadegau hyn a'r sylwadau yn rhoi cipolwg i ni ar safon byw poblogaeth cartrefi yn y Deyrnas Unedig, gan ganolbwyntio ar y rhan isaf o ddosbarthiad incwm, am y cyfnod hyd at ddiwedd 2009/10.

Hefyd, gallwch lawrlwytho cyflwyniadau a wnaed gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn 2011 ar Poverty a Living Standards and Inequality

Hefyd, gweler Department for Work and Pensions - Personal Tax Credits: Finalised Award Statistics - small area data - lsoa and data zone.

Chwiliwch am dablau sy'n dangos nifer y teuluoedd sy'n derbyn Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith ym mhob LSOA neu Barth Data a faint o blant sydd yn y teuluoedd hyn. Mae'r tablau'n cynnwys teuluoedd heb waith sy'n derbyn yr un lefel o gymorth â'r hyn a roddir gan y Credyd Treth Plant, ond ar ffurf lwfansau plant mewn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (IS/JSA).

Mae'r tablau hyn yn seiliedig ar hawl teuluoedd i gael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith ar 31 Awst, o ystyried maint y teulu, yr oriau a weithir, costau gofal plant ac anableddau ar y dyddiad hwnnw, a'r cofnod diweddaraf o'u hincwm. Dewiswyd y dyddiad hwn gan mai dyma'r dyddiad cyfeirio ar gyfer ystadegau a gyhoeddir am Fudd-dal Plant - yn cynnwys, ystadegau ar lefel LSOA yng Nghymru a Lloegr.

Lawrlwythwch ddata'r tabl ar gyfer Cymru sy'n dangos nifer y teuluoedd sy'n derbyn credydau treth a theuluoedd â phlant sy'n derbyn budd-daliadau di-waith gan Awdurdod Lleol: Awst 2009.

Tlodi Gwasanaethau

Dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru fwynhau cyfle cyfartal a mynediad cyfartal i wasanaethau priodol mewn amgylchedd sy'n parchu amrywiaeth. 

Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yng nghefn gwlad Cymru yn dioddef tlodi gwasanaethau yn arbennig, wrth i'r pellter mae'n rhaid iddynt deithio i gael gafael ar wasanaethau ychwanegu elfen arall i'w profiad o dlodi ac amddifadedd. Cyhoeddodd Arsyllfa Wledig Cymru astudiaeth o dan y teitl Ardaloedd Gwledig Anghysbell yn 2009 oedd yn nodi canfyddiadau ynghylch y gallu i gael gafael ar wasanaethau yng nghefn gwlad.

Tlodi Cyfranogiad

Mae hawl gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i gymryd rhan lawn yn y gymdeithas ac yn y pethau sy'n effeithio arnyn nhw. Mae plant o deuluoedd tlawd yn teimlo'n aml eu bod nhw wedi'u heithrio o weithgareddau mae plant eraill yn eu mwynhau. Ac mae'r teimlad yn gallu bod yn waeth os yw'r plant yn anabl neu'n dod o leiafrifoedd ethnig. Mae Llywodraeth Cymru'n disgrifio'i chynlluniau yn y ddogfen: "Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu'r Hawliau" 

Mae gan Rwydwaith Gweithwyr Cyfranogi Cymru (PWNW) fwy o wybodaeth am faterion sy'n ymwneud â thlodi cyfranogiad yng Nghymru. Gwasanaeth am ddim yw PWNW sy'n cynorthwyo ymarferwyr a sefydliadau i hyrwyddo cyfranogiad trwy eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.

Termau Eraill