Dangosyddion
Mae'r adran hon yn amlinellu rhai dangosyddion allweddol ar gyfer tlodi plant. Nid darparu arweiniad i asesu anghenion cynhwysfawr yw'r bwriad, ond cynorthwyo i gael darlun lleol o dlodi plant.
Rydym wedi casglu rhywfaint o ddata yn ôl ardaloedd Awdurdod Lleol a allai fod yn ddefnyddiol i chi greu darlun o'r sefyllfa sy'n bodoli o ran tlodi plant. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Y siart Dangosyddion
Mae rhagor o wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd ar gael isod.
Beth sy'n Newydd
- Cliciwch yma i lawrlwytho Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru 2011. Caiff dangosyddion lles eu cofnodi ar lefel Cymru gyfan ac mae'r ail rifyn hwn yn dechrau cyflwyno cyfres o ddata ar les plant a phobl ifanc y gellir ei defnyddio i olrhain newidiadau dros amser. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau o'r sail dystiolaeth ehangach a llais y plant a'r bobl ifanc eu hunain. Gweler Monitor 2008 am ddata sydd eisoes wedi'i gyhoeddi.
- Mae Stats Cymru wedi cyhoeddi Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Diweddariad Cerrig Milltir a Thargedau Tlodi Plant. Ewch yma i weld y dangosyddion Ystadegau Cenedlaethol ar Dlodi Plant a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar 25 Tachwedd 2010 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y DU. Yma gallwch lawrlwytho Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Cynnydd dangosyddion tlodi plant yn erbyn y llinell sylfaen Tachwedd 2010. Cyhoeddiad ystadegol sy'n cyflwyno data ar y 32 o ddangosyddion tlodi plant a ddefnyddiwyd i fonitro cynnydd y Strategaeth Tlodi Plant.
- Mae ein Map Tlodi Plant yn crynhoi dangosydd 22, Plant sy'n Byw ar Aelwydydd Di-waith. Rholiwch eich llygoden ar draws y map i arddangos y dosbarthiad ledled Cymru.
- Cliciwch yma i lawrlwytho Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc 2008 gan Lywodraeth Cymru.
- Gallwch adolygu'r ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a'r cynnydd ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Plant.
Darllenwch ystadegau'r Arolwg Iechyd Cymru Diweddaraf yma.
Ar hyn o bryd, mae nifer o ddangosyddion tlodi plant ar lefel genedlaethol nad ydynt yn cael eu casglu na'u coladu'n aml ar lefel leol. Mae adroddiad Llywodraeth Cymru, mesur llwyddiant yn darparu fframwaith ar gyfer y mathau o ddangosyddion y gallech eu defnyddio i fonitro tlodi plant lleol. Mae'r mynegai amddifadedd lluosog hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am dlodi yn eich ardal.
Isod, mae rhestr o ffynonellau data defnyddiol eraill a all eich helpu i fonitro tlodi plant yn lleol ac yn genedlaethol:
- Stats Cymru
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- The Poverty Site
- Swyddfa'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol
- Cyllid y Wlad
- Ystadegau Credyd Treth
- Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (ystadegau adfeddiannu lleol)
- Uned Ddata Cymru
- NPHS
- Awdurdod Ystadegau'r DU
- Y Cyfrifiad
Ymwadiad
Mae mwyafrif y deunydd ar y wefan hon yn destun diogelwch hawlfraint y Goron, oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (ac eithrio'r Arfbais Frenhinol) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb ofyn am ganiatâd penodol.
