Dysgu o Ymarfer
Dysgu o Ymarfer
Mae'r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o ymarfer lleol wrth fynd i'r afael â thlodi plant ledled y DU, gyda ffocws arbennig ar Gymru. Diben yr adran hon yw bod yn ffynhonnell wybodaeth am weithredu lleol i leihau tlodi plant a dylid ei defnyddio'n bennaf i rannu eich gwybodaeth a'ch profiad ac i ddysgu o'r hyn y mae ymarferwyr eraill yn ei wneud.
Gweld enghreifftiau o ymarfer - chwiliwch drwy bob un neu dewiswch ymarfer yn ôl maes gwasanaeth sector cyhoeddus. Gallwch gysylltu ag arweinwyr prosiect unigol drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt y gallant fod wedi'u rhoi. Bydd aelodau CPS hefyd yn gallu cael rhai manylion cyswllt gan aelodau eraill sydd wedi cyflwyno enghreifftiau o ymarfer.
Rhannu'ch gwaith gydag eraill - drwy lenwi'r ffurflen fer ar-lein. Bydd angen i chi fewngofnodi i wefan Datrys Tlodi Plant os ydych chi am gyflwyno enghreifftiau o ymarfer da. Gallwch gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn i eraill gael mynediad fel rhan o'ch enghraifft o ymarfer, fel atodi ffeil neu hyperddolenni i gynnwys allanol.
Bydd unrhyw enghreifftiau o ymarfer y byddwch yn eu cyflwyno yn cael eu cofnodi yn eich proffil aelod personol er mwyn i chi gael mynediad rhwydd a gallu golygu a diweddaru.
Am enghreifftiau o ymarfer da ac i uwchlwytho ymarfer da gyda sipsiwn a theithwyr, cliciwch yma i fynd i lyfrgell ymarfer da y Daith Ymlaen.
Mae Hawliau Plant yng Nghymru hefyd yn cynnal Llyfrgell Dysgu o Ymarfer sy'n eich galluogi i weld enghreifftiau o ymarfer da o bob cwr o Gymru wrth roi hawliau plant ar waith. Gallwch weld enghreifftiau o ymarfer a rhannu'ch arferion da ag eraill.
Dyma rai fideos byr o ymarfer da:
- Gweld ymarfer da Rhagoriaeth Cymru
- Gweld gwaith BEACON ar dlodi plant
- Newcastle
- Cernyw
- Leeds
- Tower Hamlets
- Cynllun Peilot Tlodi Plant Cyngor Gwynedd
- Partneriaethau Cyflogaeth Lleol


