Polisi, Strategaeth a Chanllawiau
Dadansoddiad gan Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN)
- Cliciwch yma i ddarllen ymrwymiadau maniffesto tlodi plant y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru a lansiwyd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai 2011 (Saesneg yn unig).
- Cliciwch yma i ddarllen maniffesto tlodi plant ECPN Cymru.
- Cliciwch yma i ddarllen gwybodaeth ddiweddaraf ECPN Cymru ar yr ystadegau cenedlaethol ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, a luniwyd gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU ac a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2011 (Saesneg yn unig).
Y cyd-destun polisi diweddaraf yng Nghymru
Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys y wybodaeth, dolenni a'r adnoddau diweddaraf ar gamau gweithredu'r llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Cliciwch yma i weld eu gwybodaeth am:
- y Strategaeth Tlodi Plant,
- Cerrig Milltir a Thargedau Tlodi Plant,
- y Canllawiau a'r Rheoliadau newydd ar gyfer Awdurdodau Cymru a,
- Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru).
Mae rhagor o wybodaeth hefyd am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru, y cysylltiadau polisi rhwng tlodi plant a hawliau dynol plant a mwy am Teuluoedd yn Gyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu agenda drawsbynciol ar gyfer gwella bywydau plant a phobl ifanc, yn seiliedig ar weithio mewn partneriaeth a gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Dylai pob polisi a rhaglen ar gyfer plant a phobl ifanc gyfrannu at y saith nod craidd sy'n crynhoi'r hawliau hyn. Mae Nod Craidd 7 yn nodi bod yn rhaid i ni sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ddifreintiedig oherwydd tlodi. Edrychwch hefyd ar adran Nodau Craidd Datrys Tlodi Plant.
Datganiadau Cabinet Llywodraeth Cymru
- Datganiad ysgrifenedig gan Leighton Andrews; y Gweinidog Addysg: Bron i £1 miliwn i helpu pobl ifanc 16-17 oed i gael gwaith (Chwefror 2011)
- Datganiad Polisi Gofal Plant: Magu Plant, Cefnogi Teuluoedd: Prif flaenoriaethau ein polisi gofal plant (2011)
- Datganiad ysgrifenedig gan Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant: Y diweddaraf ar y Strategaeth Tlodi Plant a Chynllun Cyflawni Cymru (2010)
- Datganiad ysgrifenedig gan Huw Lewis; y Dirprwy Weinidog dros Blant : y diweddaraf ar Grŵp Arbenigol Tlodi Plant (2010)
- Datganiad ysgrifenedig gan Dr Brian Gibbons; fel y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Y diweddaraf am dlodi plant (2009)
- Datganiad ysgrifenedig y cabinet gan Dr Brian Gibbons; fel y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Y diweddaraf am Dlodi Plant (2008)
Mae datganiadau ysgrifenedig a llafar eraill ar gael drwy gwblhau'r meini prawf chwilio yma.
Hanes Polisi
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i darged 2020 o ddileu tlodi erbyn 2020. Dengys tystiolaeth bod cynnydd wedi'i wneud yng Nghymru hyd at 2010, gyda chyfraddau tlodi ar gyfer plant i lawr islaw cyfartaledd y DU am y tro cyntaf. Fodd bynnag, dengys y ffigurau diweddaraf bod cynnydd o ran mynd i'r afael â thlodi plant bellach wedi arafu yng Nghymru (HBAI) gyda chynnydd o 1% o 32% yn byw ar 60% neu lai na chanolrif incwm y DU i 33% yn 2011. Mae rhagamcaniadau IFS ar gyfer y DU yn rhagweld y bydd tlodi plant wedi cynyddu'n ôl i lefelau 1997 erbyn 2014 oherwydd effeithiau dirwasgiad a newidiadau i system trethi a budd-daliadau y DU. Mae hyn yn awgrymu bod llawer o'r polisïau a'r hyn a gyflawnwyd i ddileu tlodi plant wedi bod yn aneffeithiol. Mae hefyd yn awgrymu nad yw defnyddio system trethi a budd-daliadau yn ffordd gynaliadwy o fynd i'r afael â thlodi plant a bod angen i ni ganfod ffyrdd newydd o dynnu plant a phobl ifanc allan o gyd-destun tlodi. Mae'r Athro David Egan yn trafod y cysylltiad agos rhwng lefelau sgiliau uchel a ffyniant economaidd cymharol ar lefel unigolion gwlad ac mae'n pwysleisio bod yn rhaid i addysg wneud yn well yng Nghymru. Gweler yr adran Mynd i'r Afael â Thlodi Plant hefyd.
Mae polisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn wedi'i lywio yn y blynyddoedd diwethaf gan adroddiad y Grŵp Gorchwyl annibynnol ar Dlodi Plant ym mis Mehefin 2004; y Strategaeth Tlodi Plant, 'Dyfodol Teg i'n Plant', a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2005 a chan y cynigion a nodir yn y Cynllun Gweithredu Tlodi Plant a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006. Gan ddefnyddio Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 20 Chwefror 2008, cadarnhaodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol fod Gweinidogion yn ymwybodol o'r angen i barhau i adeiladu ar yr ymdrechion yng Nghymru ac y bydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn canolbwyntio ar dri maes:
- Maes 1 - Gwella cyfleoedd bywyd plant difreintiedig;
- Maes 2 - Mentrau cynnhwysiant ariannol; a
- Maes 3 - Annog mwy o bobl i fanteisio ar gymorth trethi a budd-daliadau Llywodraeth y DU.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i ddileu tlodi plant drwy gyflwyno Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2011.
Strategaeth Tlodi Plant Cymru
Mae'r Strategaeth Tlodi Plant wedi'i rhannu i bedair rhan
- Mae Adran 1 yn amlinellu'r fethodoleg a ddefnyddir i ddiffinio a mesur tlodi ac egluro ein tair blaenoriaeth strategol ar gyfer dileu tlodi.
- Mae Adran 2 yn canolbwyntio ar y ddau nod o helpu pobl i gael gwaith â thâl a'u helpu i symud ymlaen i swyddi sy'n talu'n well.
- Mae Adran 3 yn canolbwyntio ar y nod o ostwng anghydraddoldeb er mwyn sicrhau nad yw'r canlyniadau ar gyfer y bobl dlotaf yn gwaethygu a'u bod yn gallu cau'r bwlch rhyngddynt a'u cyfoedion mwy cefnog.
- Mae Adran 4 yn crynhoi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r effeithiau ar blant sy'n byw mewn tlodi.
Cliciwch yma i lawrlwytho Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2011.
Cliciwch yma i lawrlwytho drafft Cynllun Cyflawni Cymru 2010 a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Mynd i'r Afael â Thlodi Plant: Canllawiau a Rheoliadau i Awdurdodau Cymreig
Mae'r rhan hon o wefan Llywodraeth Cymru yn nodi'r dyletswyddau ar Awdurdodau Cymreig fel y nodir yn Adran 6 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Ei nod yw datgan yn glir yr hyn sydd angen i Awdurdodau Cymreig ei wneud er mwyn cyflawni'r ddyletswydd sydd arnynt i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru rhwng 2011-2014.
Mae'r Canllawiau a Rheoliadau llawn ar gyfer Awdurdodau Cymreig ar gael i'w lawrlwytho yma.
Teuluoedd yn Gyntaf
Ym mis Mawrth 2010, cyhoeddodd Huw Lewis, y cyn Ddirprwy Weinidog dros Blant, dair ardal arloesi Teuluoedd yn Gyntaf newydd. Cliciwch yma i lawrlwytho ei ddatganiad.
- Cliciwch yma i ddarllen Nodyn Cefndir Cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer Rhanddeiliaid Allanol gan APADGOS (Saesneg yn unig).
- Cliciwch yma i ddarllen y Canllawiau ar gyfer gwahoddiad i fod yn arloeswr Teuluoedd yn Gyntaf.
- Lawrlwythwch Adroddiad Grŵp Cyflawni Modelau Gwasanaeth Newydd y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi (EIB) ar gyfer SOLACE Cymru (Saesneg yn unig).
- Cliciwch yma i gael Canllawiau'r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2011
Canllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc 2011-14
Mae'r ddogfen yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru gan bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc wrth fynd i'r afael â'r ddyletswydd newydd mewn perthynas â dileu tlodi plant. Cliciwch yma i ddarllen y canllawiau drafft.
Canllawiau Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2010
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y canllawiau strategaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles sydd ar gael yma.
Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â'r Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc. Mae'n ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol i lunio a gweithredu strategaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar y cyd ar gyfer y cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol.
Mae'n ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i gyhoeddi cynllun plant a phobl ifanc sy'n egluro strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.
Gweler yr uchod am y diweddaraf ar Ganllawiau Dros Dro Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc 2011-14.
Magu Plant, Cefnogi Teuluoedd: prif flaenoriaethau ein polisi gofal plant 2011
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd yn y tymor byr, canolig a hirach i sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i brofi gofal plant hygyrch, fforddiadwy ac o ansawdd uchel.
Ydych chi'n gweithio i Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf?
Oeddech chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar dlodi plant ar eich cyfer chi? Cliciwch yma os ydych chi am ddarllen Gweithio gyda Phlant, Pobl Ifanc a Theuluoedd - Mynd i'r afael â Thlodi Plant: Canllawiau ar gyfer Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Hefyd, edrychwch ar ein tudalennau 'Gwneud iddo Ddigwydd' arbennig ar gyfer timau Cymunedau yn Gyntaf, defnyddiwch y ddolen neu cliciwch yn y bocs glas uchod.
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru)
Cliciwch yma am y wybodaeth ddiweddaraf a dehongliad Saesneg syml o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru
Dull Newydd o Ymdrin â Thlodi Plant: Mynd i'r Afael ag Achosion Anfantais a Thrawsnewid Bywydau Teuluoedd (Saesneg yn unig)
Dyma Strategaeth Tlodi Plant genedlaethol gyntaf Llywodraeth y DU, sy'n nodi dull newydd o fynd i'r afael â thlodi ar gyfer y Senedd hon a hyd at 2020. Mae'n canolbwyntio ar:
- cryfhau teuluoedd
- annog cyfrifoldeb
- hyrwyddo gwaith
- sicrhau tegwch a
- darparu cymorth i'r rhai mwyaf bregus
Cliciwch yma i lawrlwytho strategaeth tlodi plant y DU. (Saesneg yn unig).
Deddf Tlodi Plant 2010: Arweiniad byr
Fel y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), mae'r Ddeddf Tlodi Plant yn rhoi dyletswyddau newydd ar gyrff cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran mynd i'r afael â thlodi plant. Mae arweiniad mewn Saesneg syml ar y Ddeddf Tlodi Plant ar gael yma.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Derbyniodd Deddf Cydraddoldeb 2010 Gysyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2010 a'i bwriad yw darparu fframwaith deddfwriaethol trawsbynciol newydd i amddiffyn hawliau unigolion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Yn y bôn, mae'r Ddeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus yn y DU gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb. I gael gwybod sut bydd y Ddeddf yn llywio eich gwaith tlodi plant, cliciwch yma ar gyfer Comisiwn Cydraddoldeb Llywodraeth y DU, neu ewch i Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddehongliad.
Agor Drysau, Dymchwel Rhwystrau, Strategaeth ar gyfer Symud Rhwng Dosbarthiadau Cymdeithasol
Mae cymdeithas deg yn gymdeithas agored lle mae gan bob unigolyn y rhyddid i lwyddo. Mae llywodraeth y glymblaid yn nodi mai gwella'r symud rhwng dosbarthiadau cymdeithasol yw ei phrif nod polisi cymdeithasol. Mae'r strategaeth hon yn nodi ei gweledigaeth o wlad lle gellir symud yn rhwydd rhwng dosbarthiadau cymdeithasol, a sut y gellir gwireddu hynny.
Cliciwch yma ar gyfer Strategaeth Symud Rhwng Dosbarthiadau Cymdeithasol Lloegr.
Strategaeth Tlodi Plant yr Alban
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddau brif nod:
Gwneud y gorau o adnoddau aelwydydd – Bydd tlodi incwm ac amddifadedd materol yn cael eu lleihau, drwy wneud y gorau o incwm aelwydydd ac ysgafnhau'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd ymysg teuluoedd incwm isel.
Gwella lles a chyfleoedd bywyd plant – Mae hyn yn gofyn am ganolbwyntio ar fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ac economaidd sylfaenol tlodi, a gwella'r amgylchiadau y mae plant yn cael eu magu ynddynt - gan gydnabod pwysigrwydd penodol gwella canlyniadau plant yn y blynyddoedd cynnar.
Cliciwch yma i lawrlwytho Strategaeth Tlodi Plant yr Alban..
Gwaith Tlodi Plant ar Lefel y DU
Yma, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi gwybodaeth am ymateb Llywodraeth y DU i dlodi plant, gan gynnwys gwybodaeth am Ddeddf Tlodi Plant 2010 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Hefryd, ewch i wefan Mae Pob Plentyn yn Cyfrif.
